Yr Academi Gerdd Frenhinol

Yr Academi Gerdd Frenhinol
Mathconservatoire, prifysgol, sefydliad addysg uwch, adeiladwaith pensaernïol, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Sefydlwyd
  • 1822 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Llundain Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5236°N 0.1519°W, 51.52337°N 0.15172°W, 51.523488°N 0.151686°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ2832682127 Edit this on Wikidata
Cod postNW1 5HT Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganJohn Fane, 11eg iarll Westmorland Edit this on Wikidata
Manylion

Yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, Lloegr, yw'r conservatoire hynaf yn y DU. Fe'i sefydlwyd ym 1822 [1] gan John Fane a Nicolas-Charles Bochsa. Derbyniodd ei Siarter Frenhinol ym 1830 gan y Brenin Siôr IV gyda chefnogaeth Dug 1af Wellington.[2] Mae cyn-fyfyrwyr enwog yr Academi yn cynnwys Morfydd Llwyn Owen, Osian Ellis, Syr Simon Rattle, Syr Harrison Birtwistle, Syr Elton John ac Annie Lennox.

Mae'r Academi yn darparu hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig ar draws perfformiad offerynnol, cyfansoddi, jazz, theatr gerdd ac opera, ac yn recriwtio cerddorion o bob cwr o'r byd, gyda chymuned myfyrwyr sy'n cynrychioli mwy na 50 o genhedloedd. Mae wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes, o'r Academi Iau, sy'n hyfforddi cerddorion hyd at 18 oed, trwy brosiectau cerddoriaeth gymunedol yr Academi Agored, i berfformiadau a digwyddiadau addysgol ar gyfer pob oedran.[3]

Mae amgueddfa'r Academi yn gartref i un o gasgliadau mwyaf arwyddocaol y byd o offerynnau cerdd ac arteffactau, gan gynnwys offerynnau llinynnol gan Stradivari, Guarner, ac aelodau o deulu Amati; llawysgrifau gan Purcell, Handel a Vaughan Williams; a chasgliad o ddeunyddiau perfformio a oedd yn eiddo i berfformwyr blaenllaw. Mae'n goleg cyfansoddol ym Mhrifysgol Llundain ac yn elusen gofrestredig o dan gyfraith Lloegr.

  1. "University of London: Royal Academy of Music". web.archive.org. 2011-04-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-29. Cyrchwyd 2020-07-29.
  2. Bernarr Rainbow & Anthony Kemp, 'London (i), §VIII, 3(i): Educational institutions: Royal Academy of Music (RAM)', Grove Music
  3. "What's On - Events". Royal Academy of Music. Cyrchwyd 2020-07-29.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search